Dengys arolwg eleni fod 44% o oedolion wedi cymryd rhan yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae hynny’n gynnydd ar y niferoedd isel iawn yn 2019 ac yn nodi’r cynnydd cyntaf mewn cyfranogiad ers 2015.
Mae Dinasoedd Dysg yn ddull gweithredol cynhwysol sy’n hyrwyddo ac yn cydnabod dysgu lle bynnag mae’n digwydd. Mae’n creu llwybrau newydd i ddysgu a chyflogaeth drwy gysylltu cyfleoedd dysgu ffurfiol, anffurfiol ac mewn-gwaith.